Cyfarfodydd Dydd Sul

Ar hyn o bryd rydym yn cyfarfod 3 dydd Sul y mis yn Neuadd y Dref Llangefni. Mae ein cyfarfodydd yn dechrau am 10.30yb ac yn gorffen tua 12yp. Credwn y dylai pawb fwynhau'r Eglwys, yn enwedig ein plant! Felly, mae Ysgol Sul yn ystod y cyfarfod yn darparu lle hwyliog i blant ei fwynhau ac i ddysgu, tra'n rhoi cyfle i'r rhieni gymryd rhan lawnach yn y cyfarfod.

Rhythm Misol Newydd

Rydym yn cychwyn rhythm newydd fel eglwys. Bob wythnos mi fydd rhywbeth gwahanol ymlaen - mi fydd hysbyseb ar gyfer y misoedd pan fydd 5 dydd Sul mewn mis fel bo chi’n methu dim.

Wythnos 1 - Cyfarfod Pob Oed

Mae croeso i pawb yn ein cyfarfod pob oed! Mae rhywbeth i bawb, dim bwys pa oedran ydech chi - mi fydd plant yn aros efo ni drwy’r cyfarfod. Mae ‘Caffi Croeso’ ymlaen ar ôl y cyfarfod os ydech chi’n newydd i gymuned y capel!

Yn y nos mi fydd cerddorion ‘Ymryson’ yn cyfarfod - noson anffurfiol o ganu ac addoliad.

Wythnos 2 & 3 - Cyfarfod ac Ysgol Sul

Cyfarfod Dydd Sul efo’n 3 grwp Ysgol Sul yn rhedeg - Sparcs Creche, Tanio a Fflam.

Wythnos 4 - Sul Grwp Bach

Ar y Sul yma mi fydd ein grwpiau bach yn cyfarfod ar draws yr ynys er mwyn adeiladu cymuned - annog ffydd - a rhannu am Iesu! Mi fydd arweinydd eich grŵp bach mewn cysylltiad ynglyn a’r plan ar gyfer eich grŵp bach chi.

Os ydych yn ymweld ar Sul Grwp Bach mae’n ddrwg gennym ni eich methu. Rydym yn gobeithio y byddech yn medru ymuno a chapel lleol arall i gyfarfod a nhw a’n gobeithio’ch gweld chi y tro nesaf yr ydech chi o gwmpas.

Cyfarfodydd Dydd Sul

Rydyn ni'n ymgynnull ar y Sul i gyfarfod a Duw, i ddysgu sut i'w ddilyn, dyfnhau ein fydd a cael ein trawsnewid i ddod y bobol y creodd ni i fod.

Ymunwch â ni bob dydd Sul o 10.30yb (10.15yb am luniaeth) ar gyfer addoli, dysgu, gweddi, ac Ysgol Sul.

Rydym yn cyfarfod yn Neuadd y Dref Llangefni, LL77 7LR.

Byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno!

 

Goleudy Ar-Lein

Rydym eisiau Goleudy fod mor hygyrch â phosibl. Felly, rydym yn uclwytho’r sgwrs o'n cyfarfod bob dydd Llun ar YouTube.

Felly, os ydych chi wedi colli wythnos, neu eisiau gwarndo cyn mynychu cyn i chi ddod am y tro cyntaf, mae hynny'n bosibl.

Mae gennym hefyd ganeuon addoli ar ein sianel yn yn ogystal a rhestr chware o ganeuon rydym yn eu canu’n aml neu sydd yn annogaeth yn eich bywyd o ddydd i ddydd.