Croeso!

Rydym yn Gapel Cristnogol wedi ei sefydlu ar Ynys Môn, sy'n ceisio dilyn dysgeidiaeth Iesu Grist, rhannu bywyd gyda'n gilydd a gwasanaethu cymunedau ein ynys.

Rhythm Misol Newydd

Rydym yn cychwyn rhythm newydd fel eglwys. Bob wythnos mi fydd rhywbeth gwahanol ymlaen - mi fydd hysbyseb ar gyfer y misoedd pan fydd 5 dydd Sul mewn mis fel bo chi’n methu dim.

Wythnos 1 - Cyfarfod Pob oed

Wythnos 2 - Cyfarfod ac Ysgol Sul

Wythnos 3 - Cyfarfod ac Ysgol Sul

Wythnos 4 - Sul Grwp Bach

Ewch i’r dudalen Cyfarfod Dydd Sul i ddarganfod mwy o wybodaeth.

Dydd Sul efo Goleudy

Cyfarfodydd Dydd Sul

Mae dydd Sul yn wych! Cyfle i ymgynnull a’n gilydd. Cychwyn am 10.30yb yng Neuadd y Dref Llangefni, allwch hefyd ddal i fyny drwy wrando ar YouTube.

Ysgol Sul

Mae gennym ni dri grŵp plant yn ystod y cyfarfod ar y Ddydd Sul; Sparcs, Tanio a Fflam.

Straeon Fydd Môn

Cyfres o ffilmiau byr o bobl bob dydd yn byw bywydau llawn gobaith ers dod o hyd i Iesu.

Diweddaraf

Grwpiau Bach

Mae grwpiau bach yn lleoedd i gael eu hadnabod, i dyfu ac i gael eu gwreiddio! Maent yn digwydd mewn gwahanol fannau ac amseroedd yn ystod yr wythnos.

Pelydra Bach

Rydym yn cynnal grŵp Babanod a Phlant Bach ar brynhawn Mawrth yn Gaerwen. Mae'n ffordd wych o gwrdd â rhieni a gwarcheidwaid eraill yn yr ardal.

Clwb Cinio

Mae Clwb Cinio yn brosiect rydyn ni'n ei redeg yn ystod gwyliau'r ysgol, darparu prydau bwyd a gweithgareddau i deuluoedd.

YouTube Goleudy

Dal i fyny ar ein sgyrsiau Cyfarfod y Sul, gwrando ar restrau chwarae addoli a chael cipolwg ar fywyd yn y gymuned.